Paratowyd y ddogfen hon gan gyfreithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi gwybodaeth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad a’u staff am faterion y mae’r Cynulliad a’i bwyllgorau’n eu hystyried ac nid at unrhyw ddiben arall. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a’r cyngor a geir yn y ddogfen hon yn gywir, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir arnynt gan drydydd parti.

 

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL

GORCHYMYN CYRFF CYHOEDDUS (DIDDYMU BWRDD Y GWARCHEIDWAD CYHOEDDUS AC AROLYGIAETH GWEINYDDIAETH LLYSOEDD EM) 2012

 

Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Y Cefndir

 

1.       Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyflwyno hysbysiad ynglŷn â chynnig–

“Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9 (6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011(“y Ddeddf”), fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd EM a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 (“y Gorchymyn”), yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.”

 

2. Trafodwyd y Memorandwm hwn yn unol â’r trefniadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 7 Chwefror 2012. Trefnwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y cynnig hwn ar gyfer 17 Gorffennaf 2012 yn amodol ar farn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

3. Ysgrifennodd yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder at Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2012 i geisio cytundeb i osod cynnig cydsyniad yn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y darpariaethau yn y Gorchymyn hwn sy’n dod o dan adran 9 (6) o’r Ddeddf. Cydsyniwyd â’r cais. Gosodwyd y Gorchymyn o dan adran 11 o’r Ddeddf ar 10 Mai 2012 gerbron Tŷ’r Cyffredin gan Kenneth Clarke, yr Ysgrifennydd Gwladol. Nid yw’r Offeryn hyd yn hyn wedi’i ystyried gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol. Daw’r cyfnod craffu yn Nhŷ’r Cyffredin i ben ar 25 Mehefin 2012.

 

Y Gorchymyn:-

 

4. Gwneir y Gorchymyn o dan adrannau 1, 6 (1), (2) (a) a (5) a 35 (2) o’r Ddeddf.

 

5. Nid yw hwn yn Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o fewn ystyr Rheol Sefydlog 30, gan nad yw’n ymwneud â darpariaethau sydd wedi’u cynnwys mewn Bil gerbron Senedd y DU. Er hynny, mae’n debyg i’r graddau ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sy’n gymwys yng Nghymru mewn perthynas â mater sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, hy Galluedd Meddyliol. Gellir cymharu hyn â’r Gorchymyn Swyddfa Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau, etc.) 2012, a oedd yn ehangu cymhwysiadegwyddor cydsyniad deddfwriaethol i gynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol a wneir drwy Orchymyn gan Weinidogion y DU.[1]

 

6. Mae’r Gorchymyn yn diddymu Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus (“y Bwrdd”) a sefydlwyd o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Dyletswydd y Bwrdd yw adolygu a chraffu ar y modd y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyflawni ei swyddogaethau a gwneud trefniadau priodol i’r Arglwydd Ganghellor. Mae’r swyddogaethau a roir i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’w gweld yn adran 58 o Ddeddf Galluedd Meddyliol ac yn cynnwys swyddogaethau goruchwylio mewn perthynas ag unigolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau. Gwneir y penderfyniad i ddiddymu’r Bwrdd yn sgîl canlyniad adolygiad Llywodraeth y DU o gyrff cyhoeddus. Yr hyn y bwriedir ei wneud wedi diddymu’r Bwrdd yw disodli swyddogaethau’r Bwrdd drwy gryfhau’r trefniadau llywodraethu o fewn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n bodoli fel asiantaeth weithredol i Lywodraeth y DU. Nid oes trosglwyddo swyddogaethau mewn cysylltiad â’r Bwrdd. Yn ogystal â diddymu’r Bwrdd, byddai’r Gorchymyn yn gwneud diddymiadau a dirymiadau yn gysylltiedig â’r diddymu.

 

7. Mae hwn yn Orchymyn Cyfansawdd sydd hefyd yn cynnwys diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd EM. Sefydlwyd yr arolygiaeth o dan adran 58 o Ddeddf Llysoedd 2003 ac mae ganddi ddyletswydd statudol i arolygu a chyflwyno adroddiadau i’r Arglwydd Ganghellor ar y system sy’n cefnogi cynnal busnes y Goron, llysoedd Sirol a llysoedd Ynadon a’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y llysoedd hynny. O ran yr arolygiaeth, trosglwyddir dwy swyddogaeth i Brif Arolygydd Carchardai EM. Fodd bynnag, nid yw’r arolygiaeth yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Y Memorandwm Cydsyniad

 

8. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd mewn perthynas â “galluedd meddyliol” (o dan Bwnc 9 (Iechyd a Gwasanaethau Iechyd) Atodlen 7; a Phwnc 15 (Lles Cymdeithasol) Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). Mae o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu rhyw fath o drefn sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer atal, trin a lliniaru anhwylder meddyliol a/neu ar gyfer gwarchod rhai sy’n agored i niwed. Bernir bod y cymhwysedd hwn yn ddigon eang i sefydlu bwrdd y rhoir iddo’r dasg o gefnogi a diogelu hawliau unigolion sydd ag anhwylder meddyliol a hefyd i sefydlu corff sy’n arfer swyddogaethau tebyg i’r Bwrdd mewn perthynas â Chymru. I’r graddau bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y cymhwysedd i greu corff o’r fath, byddai ganddo hefyd y pŴer i’w ddiddymu.

 

9. Mae adran 9 (6) o’r Ddeddf yn datgan bod gorchymyn i ddiddymu, cyfuno neu drosglwyddo swyddogaethau corff cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad pe bai’n cael ei chynnwys mewn Deddf Cynulliad. Mae adran 9 (7) o’r Ddeddf yn datgan bod gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth nad yw’n dod o fewn is-adran (6) sydd un ai’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol.

 

10. Mae’r Gorchymyn, drwy ddiddymu’r Bwrdd, yn deddfu ar gyfer diben sy’n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, ac o’r herwydd gofynnir am gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 9(6) o’r Ddeddf, i’r graddau bod y Gorchymyn yn gwneud darpariaeth i ddiddymu’r Bwrdd mewn perthynas â Chymru. Mae diddymu’r Bwrdd yn bodloni’r meini prawf a nodir o dan adran 9(6) o’r Ddeddf, gan fod gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd mewn perthynas â thriniaeth feddygol a gwasanaethau iechyd, lles cymdeithasol a gofal am rai sy’n agored i niwed.  Nid yw diddymu’r Bwrdd yn bodloni’r meini prawf o dan adran 9(7) o’r Ddeddf. Nid yw diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd EM yn bodloni’r meini prawf o dan adran 9(6) nac adran 9(7) o’r Ddeddf.

 

Casgliad

 

11. Argymhellir bod y Pwyllgor yn ystyried a yw’n fodlon ar y gorchymyn presennol a hefyd a ellir dysgu unrhyw wersi o’r esiampl hon ar ôl i’r Gorchymyn Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau, etc.) 2012 gael ei ystyried ym mis Chwefror 2012.

 

Y Gwasanaethau Cyfreithiol                                                   Mai 2012

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad

 

Adran 9 (6) a (7) ac Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus 2011

 

Adran 9:-

 

(6)Mae gorchymyn o dan adrannau 1 i 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad pe bai’n cael ei chynnwys mewn Deddf Cynulliad.

 

(7)Mae gorchymyn o dan adrannau 1 i 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth nad yw’n dod o fewn is-adran (6) —.

(a) sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu

(b) a allai gael ei gwneud gan unrhyw un o’r rheini.

 

Adran 1, Atodlen 1:-

 

(1) Caiff Gweinidog, drwy orchymyn, ddiddymu corff neu swydd a nodir yn Atodlen 1.

 

PŴer i ddiddymu: cyrff a swyddi:-

Y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd

Y Pwyllgor Cynghori ar Sylweddau Peryglus (a sefydlwyd o dan adran 140(5) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990)

Y Pwyllgor Cynghori ar Blaladdwyr a’r Pwyllgor Cynghori ar Blaladdwyr i Ogledd Iwerddon (cyrff a sefydlwyd o dan adran 16(7) o Ddeddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd 1985)

Pwyllgor Cynghori Anhedd-dai Amaethyddol ar gyfer ardaloedd yn Lloegr.

Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr.

Pwyllgor cyflogau amaethyddol ar gyfer ardaloedd yn Lloegr

Tribiwnlys Cyflafareddu Diwydiannau Awyrennau ac Adeiladu Llongau

Adeiladwyr Llongau Prydain ac unrhyw is-gwmni i Adeiladwyr Llongau Prydain (o fewn ystyr adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006)

BRB (Residuary) Limited

Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant

Comisiwn Cymunedau Gwledig

Y Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol (y corff a sefydlwyd o dan adran 92 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986).

Y Gwasanaeth Cystadlu

Byrddau Llysoedd

Pwyllgor Rheolau Llys y Goron

Bwrdd Cynghori Lwfans Byw i’r Anabl

Y Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl

Pwyllgorau Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd a sefydlwyd o dan adran 12 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ac eithrio’r un a sefydlwyd yn unol ag is-adran (6) o’r adran honno (Cymru)

Bwyd o Brydain

Y Pwyllgor Cynghori ar Goed Cartref

Y Cyngor Cynghori ar Ddyfrffyrdd Mewndirol

Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi

Cyngor Cynghori Llyfrgelloedd Lloegr

Pwyllgor Rheolau Llysoedd Ynadon (sefydlwyd o dan adran 144 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980)

Y Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol (“Llais Defnyddwyr”)

Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau.

Tribiwnlys Amrywogaethau a Hadau Planhigion

Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus

Pwyllgor Treftadaeth Rheilffyrdd

Pwyllgorau cynghori rhanbarthol a lleol ar bysgodfeydd a sefydlwyd o dan adran 13 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ac eithrio’r un a sefydlwyd yn unol ag is-adran (5) o’r adran honno (Cymru)

Cofrestrydd Hawl Benthyg i’r Cyhoedd

Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon

Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio

Panel Cynghori Dioddefwyr.

 



[1] Memorandwm Cydsyniad y Gweinidog ar gyfer Gorchymyn Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau, etc.) 2012 a’r canllawiau sydd yn y Canllawiau ar Ddatganoli, Nodyn 9.